Cyflwyniad
1. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i symud tuag at strategaeth fuddsoddi tymor hwy yn seiliedig ar wybodaeth ar gyfer seilwaith. Bydd y strategaeth hon yn ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn galluogi prosiectau penodol i gael eu datblygu’n fwy effeithlon gan fod pobl Cymru yn deall eu pwysigrwydd yn well ac yn eu cefnogi’n fwy, gan gynnwys yr angen i sicrhau bod buddsoddiadau’r sector cyhoeddus yn cynnig gwerth am arian.
2. I helpu i gyrraedd y nod hwn, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol cynghorol, anstatudol i Gymru i ddarparu cyngor strategol annibynnol ac arbenigol.
Ymgynghoriad
3. Mae ymgynghoriad ar y gweill ar hyn o bryd sy’n gofyn am farn rhanddeiliaid am y bwriad i sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol i Gymru i lywio a blaenoriaethu penderfyniadau buddsoddi mewn perthynas ag anghenion seilwaith tymor canolig i’r tymor hwy. Bydd yr ymgynghoriad yn rhoi cyfle i randdeiliaid roi eu barn ar sut y caiff y comisiwn ei sefydlu a’i redeg.
4. Cychwynnodd y cyfnod ymgynghori ar 17 Hydref 2016 a daw i ben ar 9 Ionawr 2017.
Cylch Gwaith
5. Rydym yn rhagweld mai corff cynghori fyddai’r comisiwn, yn gyfrifol am ddadansoddi, cynghori a gwneud argymhellion ar anghenion seilwaith strategol tymor hwy Cymru dros gyfnod o 5-30 mlynedd drwy lunio adroddiadau rheolaidd i Lywodraeth Cymru; yn strategol nid yn unig o ran maint neu gost prosiect unigol ond hefyd o ran effaith gyfunol bosibl prosiectau.
6. Byddai’r cylch gwaith yn cwmpasu’r holl sectorau seilwaith economaidd ac amgylcheddol, gan gynnwys ynni, trafnidiaeth, dŵr a charthffosiaeth, datrysiadau draenio, gwastraff, cyfathrebu digidol, rheoli llifogydd ac erydu arfordirol a byddai’n cwmpasu seilwaith datganoledig a seilwaith heb ei ddatganoli, gan adlewyrchu’r setliad datganoli a natur drawsffiniol seilwaith – er enghraifft y rhwydwaith rheilffyrdd.
7. Byddai’r cyfrifoldeb am bennu polisi, ynghyd â’r fframwaith rheoliadol a chynllunio, ac ar gyfer gwneud penderfyniadau buddsoddi lle bo hyn yn un o swyddogaethau’r llywodraeth, yn parhau i gael ei ysgwyddo gan Weinidogion Cymru ar gyfer seilwaith datganoledig, a chan Lywodraeth y DU ar gyfer seilwaith heb ei ddatganoli.
8. Er sefydlogrwydd ac atebolrwydd, ni fwriedir i’r comisiwn roi cyngor ar raglenni a gwaith y penderfynwyd arnynt eisoes, neu y penderfynir arnynt yn y dyfodol agos gan gyrff statudol a rheoliadol.
9. Y bwriad yw y byddai’r comisiwn yn dadansoddi anghenion seilwaith economaidd ac amgylcheddol ac yn rhoi cyngor arnynt mewn modd integredig, gan ymdrin â rhagddibyniaethau mewn modd traws-sectoraidd. Gallai hefyd ystyried cyflawni ar sail trawsbynciol os bydd yn eu hystyried yn rhwystr i fodloni anghenion seilwaith, gan gynnwys llywodraethu, costau, cyllido a methodoleg rheoli rhaglenni/prosiectau.
10. Ni fyddai’r cylch gwaith yn cwmpasu seilwaith cymdeithasol megis ysgolion, ysbytai a thai. Ym marn Llywodraeth Cymru, mae trefniadau sefydledig, effeithiol eisoes ar waith ar gyfer dadansoddi anghenion strategol tymor hwy yn y sectorau hyn a ddylai barhau i fod yn gyfrifoldeb i’r awdurdodau cynllunio a gwasanaethau perthnasol. Fodd bynnag, byddai’r cylch gwaith yn ymestyn i ddarparu cyngor ar y rhyngweithio rhwng seilwaith economaidd ac amgylcheddol a seilwaith cymdeithasol.
11. Byddai gwaith y comisiwn yn helpu i lywio cynlluniau buddsoddi mewn seilwaith tymor hwy Llywodraeth Cymru, ac wrth wneud hynny, y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, a fydd yn rhoi gwedd strategol tymor hwy ar anghenion cynllunio.
Aelodaeth
12. Y bwriad yw i’r comisiwn gynnwys uchafswm o 10 aelod gan gynnwys y Cadeirydd. Byddai pob aelod yn cael ei benodi ar sail ei wybodaeth a’i brofiad arbenigol, nid yn rhinwedd ei swydd. Byddai angen i aelodau allu meddwl a gweithredu ar draws sectorau; bod yn greadigol a chynhwysol o ran dadansoddi anghenion y dyfodol a’r heriau polisi cyhoeddus sy’n ein hwynebu, megis datgarboneiddio.
13. Byddai penodiadau’n cael eu gwneud drwy ymarfer penodiadau cyhoeddus yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Penodiadau Gweinidogol i Gyrff Cyhoeddus, yr egwyddorion o deilyngdod, tegwch a gonestrwydd, ac egwyddorion ehangach Nolan.
14. Byddai’r comisiwn yn dadansoddi, yn cynghori ac yn gwneud argymhellion mewn perthynas ag anghenion seilwaith tymor hwy Cymru drwy gyflwyno adroddiadau rheolaidd i Lywodraeth Cymru. Byddai Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r comisiwn gyhoeddi adroddiadau rheolaidd ar ei waith a chynnal cyfarfodydd cyhoeddus bob blwyddyn yng Ngogledd, Canolbarth, De a Gorllewin Cymru i esbonio a hyrwyddo ei rôl a’i waith.
Casgliad
15. Mae amrywiaeth o fodelau eisoes yn bodoli a syniadau gwahanol ynghylch statws a chylch gwaith corff seilwaith. Ym marn Llywodraeth Cymru, byddai sefydlu comisiwn cynghorol, anstatudol yn gam cyntaf yn y broses o atgyfnerthu penderfyniadau a chyflawni mewn perthynas â seilwaith.
16. Yn dibynnu ar yr adborth o’r ymgynghoriad hwn, rydym yn bwriadu sefydlu’r comisiwn erbyn haf 2017.
17. Mae Llywodraeth Cymru yn agored i newid statws a chylch gwaith y corff, os daw yn amlwg, drwy brofiad, bod manteision clir yn sgil gwneud hynny. Y bwriad fyddai cynnal a chyhoeddi adolygiad o statws a chylch gwaith y corff cyn etholiad nesaf y Cynulliad yn 2021.